|
|||||||
|
Sefydlwyd y cwmni gan Elfyn Pugh, heddwas wedi ymddeol. Creda Elfyn, sydd wedi ymddiddori mewn gwylio adar ers ei ieuenctid fod ardal Machynlleth a'r cyffiniau yn cynnig cyfleoedd arbennig i wylwyr adar i weld amrywiaeth eang o wahanol fathau o adar a bywyd gywyllt yn eu cynefin naturiol.
Felly os ydych yn wyliwr adar profiadol neu yn rywun sydd newydd ddechrau ymddiddori, beth am ymuno a ni ar un o'n teithiau gwylio adar neu saffaris barcud coch ar daith drwy gefn gwlad canolbarth Cymru. Dyma ddetholiad o adar ac anifeiliad yr ydym yn debygol o ddod ar eu traws yn ystod un o'n teithiau:- Adar- Hebog Tramor, Hebog yr Ehedydd, Barcud Coch, Bwncath, Gwalch Glas, Gwalch Mawr, Cudyll Coch, Gwalch Y Pysgod, Bod Tinwen, Bod y Gwerni, Cydyll Bach, Tylluan Glustiog. Gwybedog Brith, Telor y Coed, Telor yr Helyg, Siff-saff,Telor Penddu, Tingoch, Corhedydd y Coed, Gwybedog Mannog, Llinos Bengoch leiaf, Cnocell Fraith Fwyaf, Cnocell Fraith Leiaf a Cnocell Werdd, Delor y Cnau, Dringwr Bach, Cyffylog, Pila Gwyrdd, Y Gylfin Groes. Bronwen y Dwr, Siglen Lwyd, Siglen Fraith, Glas y Dorlan, Pibydd y Dorlan, Gwennol y Glenydd, Creyr Glas, Hwyaden Ddanheddog, Hwyaden Frongoch, Alarch Dof, Alarch y Gogledd, Gwyach Fawr Gopog, Gwyach Fach, Cwtiar, Iar Dwr, Hwyaden, Hwyaden Bengoch, Hwyaden Lygad Aur, Hwyaden Lydanbig, Hwyaden Lwyd, Hwyaden Wyllt. Pibydd y Mawn, Pibydd Coesgoch, Pibydd Coeswerdd, Pibydd Torchog, Rhostog Gynffonfrith, Rhostog Gynffonddu, Gylfinir, Pioden y Mor, Giach Cyffredin, Cornchwiglen, Cwtiad Aur,Cwtiad Llwyd, Creyr Bach, Hwyaden yr Eithin, Chwiwell, Hwyaden Lostfain, Corhwyaden, Gwydd Dalcenwyn (Hil yr Ynys Las), Gwydd Wyran, Gwydd Canada. Telor y Cyrs, Telor yr Hesg, Troellwr Bach, Bras y Cyrs, Troellwr Mawr, Rhegen y Dwr. Bras Melyn, Clochar y Cerrig, Crec yr Eithin, Tinwen y Garn, Ehedydd, Corhedydd y Waun, Mwyalchen y Mynydd, Grugiar, Cigfran. Cwtiad Torchog, Pibydd y Tywod, Pibydd Du, Cwtiad y Traeth, Coegylfinir, Hwyaden Fwythblu, Mor-hwyaden Ddu, Hugan, Aderyn Drycin Manaw, Mulfran, Mulfran Werdd, Llurs, Gwylog, Trochydd Gyddfgoch, Aderyn-drycin y Graig, Gwylan Goesddu, Gwylan y Penwaig, Gwylan Gefnddu Fwyaf, Gwylan Gefnddu Leiaf, Gwylan Benddu, Gwylan y Gweunydd, Gwylan Fechan, Morwennol Gyffredin, Morwennol y Gogledd, Morwennol Bigddu, Morwennol Fechan, Sgiwen Fawr, Sgiwen y Gogledd, Sgiwen Frech, Bran Goesgoch. Anifeiliaid- Dolffin trwyn potel, Llamhidydd, Morlo Llwyd, Mochyn Daear, Llwynog, Carlwm, Wenci, Ffwlbart, Ysgyfarnog. Mae nifer dda o Ddyfrgi yn yr ardal hon ond maent yn greaduriaid anodd iawn iw gweld gan ei bod ran amlaf yn hela yn ystod y nos. |
|||||||
|
top | ||||||